Mae’r Gweilch wedi cyhoeddi bod y canolwr a’r asgellwr o Namibia, Lesley Klim wedi symud i’r Liberty ar gytundeb dwy flynedd.

Fe fydd y chwaraewr 23 oed yn ymuno â’r rhanbarth o Doncaster cyn dechrau’r tymor nesaf.

Mae’n cael ei ystyried yn chwaraewr disglair oherwydd ei gyflymdra a’i gorffolaeth.

Fe fu’n chwarae i Welwitschias yn Ne Affrica ers dwy flynedd, ac roedd yn brif sgoriwr ceisiau’r clwb yn y ddau dymor hynny.

Gwisgodd e grys Namibia am y tro cyntaf y llynedd ac mae e wedi sgorio chwe chais mewn wyth gêm hyd yn hyn.

Symudodd e i Doncaster ddechrau’r flwyddyn, ac mae e wedi sgorio dau gais mewn pedair gêm hyd yn hyn. Ond fe fydd e’n ymuno â dau arall o wynebau newydd y Gweilch ar gyfer 2018-19, sef Scott Williams ac Aled Davies.

Abertawe

Fe fydd y trosglwyddiad yn gweld Lesley Klim yn dychwelyd i ddinas Abertawe, lle’r oedd yn gapten ar Namibia ym Mhencampwriaeth Saith Bob Ochr Prifysgolion y Byd yn 2016.

Dywedodd: “Dw i wrth fy modd o gael ymuno â’r Gweilch. Mae’n gyfle gwych i fi a dw i’n edrych ymlaen at chwarae rygbi cyflym ac ymosodol gyda thîm da.

“Dw i’n gwybod am y Gweilch ers i fi chwarae saith bob ochr yn Abertawe ychydig flynyddoedd yn ôl a dw i’n gwybod fod cynifer o chwaraewyr o safon yno.

“Dw i wedi cyffroi o gael bod yn rhan o’r Gweilch, gan hyfforddi a chwarae gyda chwaraewyr rhyngwladol a Llewod o’r radd flaenaf…”

Cytundebau newydd

Mae nifer o chwaraewyr eisoes wedi derbyn cytundebau newydd – Adam Beard, Olly Cracknell, Ma’afu Fia, James King, Sam Parry ac Owen Watkin.

Ac mae Sam Cross wedi symud yn barhaol o dîm saith bob ochr Cymru.

Mae Will Jones a Reuben Morgan-Williams hefyd wedi llofnodi eu cytundeb proffesiynol cyntaf gyda’r rhanbarth.