Bydd 322 o dimau a thros 3800 o chwaraewyr ifanc yn chwarae yn Nhwrnament Rygbi Saith Bob Ochr yng Nghaerdydd yr wythnos nesaf.

Mae’r digwyddiad wedi ei drefnu gan yr Urdd a’r Undeb Rygbi ac yn digwydd ar gaeau Pontcanna a Llandaf yng Nghaerdydd.

Ymysg yr ysgolion a cholegau sy’n cystadlu eleni fydd Coleg Meirion Dwyfor, Ysgol y Berwyn, Ysgol Dyffryn Conwy, Ysgol y Preseli, Coleg Sir Benfro ac Ysgol Glan Tâf.

“Mae gen i lawer o atgofion da o gystadlu yn nhwrnamaint 7 bob ochr yr Urdd WRU drwy gydol fy amser yn Ysgol Glan Taf, gan gynnwys y profiad o chwarae yn y rownd derfynol ar Barc y Strade,” meddai Rhys Patchell, cyn-gystadleuydd yn y twrnamaint sydd bellach yn chwarae rygbi’n broffesiynol gyda Chymru a’r Sgarlets

“Mae safon y chwarae yn arbennig, ac roedd hi wastad mor braf gweld cymaint o ddisgyblion yn cymryd rhan. Dwi’n ffodus o fod wedi cael profiadau eang drwy’r Urdd, sydd wedi dysgu i mi yn arbennig sut i gystadlu ar lwyfan mawr, cenedlaethol.

“Mae hi’n braf gweld cymaint mae’r gystadleuaeth wedi tyfu, a gweld dewiswyr 7 bob ochr Cymru yn mynd draw i weld y dalent newydd sy’n dod trwyddo.”

Am y tro cyntaf erioed eleni bydd S4C yn darlledu rowndiau terfynol y twrnamaint yn fyw ar Facebook S4C rhwng 4-6yp ar ddydd Iau 15 a Gwener 16 o Fawrth. Yn cyflwyno bydd Lauren Jenkins, gyda Rhys ap William yn sylwebu.