Will Jones fydd capten Tîm Rygbi Cymru dan 20 Cymru heno, wrth iddyn nhw fynd benben â’r Eidal ym Mae Colwyn.

Er mai dim ond un newid sydd i’r rheng ôl – gyda Will Jones yn dychwelyd i’w safle yn Flaenasgellwr – bydd gan Gymru rheng flaen newydd ar gyfer yr ornest.

Rhys Carre fydd y prop pen rhydd, Dewi Lake fydd y bachwr, a Kemsley Mathias yn brop pen tyn – mae’r tri ohonyn nhw wedi eu dyrchafu o’r fainc.

Ymhlith y chwaraewyr sydd ar y fainc mae’r tri blaenwr di-gap, Jordan Walters, Alun Lawrence a Lennon Greggains.

Ar hyn o bryd mae tîm dan 20 Cymru yn drydydd yn nhabl y Chwe Gwlad, yn dilyn buddugoliaethau yn erbyn Iwerddon a’r Alban, ond colled yn erbyn Lloegr.

Bydd modd gwylio’r gêm yn fyw ar BBC 2 Wales, gyda’r gêm yn dechrau am 7.15 yr hwyr.

Y tîm

Cai Evans; Joe Goodchild, Corey Baldwin, Callum Carson, Tommy Rogers; Ben Jones, Harri Morgan; Rhys Carre, Dewi Lake, Kemsley Mathias, Owen Lloyd, Max Williams, James Botham, Will Jones (capten), Taine Basham.

Ar y fainc

Iestyn Harris, Jordan Walters, Rhys Henry, Alun Lawrence, Lennon Greggains, Reuben Morgan-Williams, Max Llewellyn, Rio Dyer.