Fe fydd Taulupe Faletau yn dychwelyd i arwain tîm rygbi Cymru yn erbyn yr Eidal yng Nghaerdydd ddydd Sul.

Dyma’r tro cyntaf iddo chwarae ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni, ac mae’n un o ddeg newid i’r tîm.

Yn ymddangos yng nghrys Cymru am y tro cyntaf mae blaenasgellwr y Scarlets, James Davies. Fe fydd yn ymuno â’i gapten a Justin Tipuric yn y rheng ôl.

Dim ond Liam Williams, Steff Evans, Hadleigh Parkes, Gareth Davies a Cory Hill sy’n cadw eu llefydd yn y tîm yn dilyn y golled o 37-27 yn erbyn Iwerddon bythefnos yn ôl.

Y tîm

Liam Williams, George North, Owen Watkin, Hadleigh Parkes, Steff Evans, Gareth Anscombe, Gareth Davies; Nicky Smith, Elliot Dee, Tomas Francis, Cory Hill, Bradley Davies, Justin Tipuric, James Davies, Taulupe Faletau (capten)

Eilyddion

Ken Owens, Rhys Evans, Samson Lee, Seb Davies, Ellis Jenkins, Aled Davies, Rhys Patchell, Leigh Halfpenny