Southern Kings 45–13 Dreigiau

Colli’n drwm fu hanes y Dreigiau wrth iddynt ymweld â Stadiwm Bae Nelson Mandela yn Ne Affrica i herio’r Southern Kings yn y Guinness Pro14 nos Wener.

Er i’r ymwelwyr o Gymru aros yn y gêm am y deugain munud cyntaf, y tîm cartref aeth â hi yn gyfforddus yn y diwedd wedi llu o geisiau ail hanner.

Aeth y Dreigiau ddeg pwynt ar y blaen yn yr hanner cyntaf diolch i gic gosb, cais a throsiad gan Dorian Jones.

Ychwanegodd Jones dri phwynt arall cyn yr egwyl hefyd ond y tîm cartref a oedd ar y blaen wrth droi diolch i gais yr un gan Luzuko Vulindlu a Maxisole Banda, a dau drosiad gan Kurt Coleman, 14-13 y sgôr wrth droi.

Daeth moment orau’r gêm yn gynnar yn yr ail hanner wrth i Vulindlu groesi amei ail gais, yn cwblhau symudiad hyd-y-cae gwych.

Y gwŷr o Dde Affrica a oedd yr unig dîm ynddi wedi hynny. Roedd y pwynt bonws yn ddiogel yn fuan wedyn gyda chais Ruaan Lerm ac fe roddodd ceisiau hwyr Anthonie Volmink a Bobby De Wee wedd gyfforddus iawn ar y sgôr terfynol, 45-13.

Hon oedd buddugoliaeth gyntaf erioed y Southern Kings yn y Pro14 ond nid yw’n ddigon i’w codi o waelod cyngres B. Mae’r tîm newydd yn aros ar y gwaelod, gyda’r Dreigiau un safle yn uwch, yn chweched.

.

Southern Kings

Ceisiau: Luzuko Vulindlu 34’, 41’, Maxisole Banda 40’, Ruaan Lerm 46’, Anthonie Volmink 66’, Bobby De Wee 77’

Trosiadau: Kurt Coleman 35’, 40’, 42’, 47’, 68’, 78’

Cic Gosb: Kurt Coleman 52’

.

Dreigiau

Cais: Dorian Jones 27’

Trosiad: Dorian Jones 28’

Ciciau Cosb: Dorian Jones 6’, 39’