Mae un o hyfforddwyr cynorthwyol tîm rygbi Cymru wedi dweud ei fod yn “agored” i gynigion swyddi Prif Hyfforddwr gan glybiau a rhanbarthau.

Mae Shaun Edwards wedi bod yn cynorthwyo Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, ers 2008, ond mi fydd ei gytundeb yn dod i ben yn dilyn Cwpan y Byd y flwyddyn nesa’.

“Baswn i’n agored i gynigion am swydd [Prif Hyfforddwr], baswn,” meddai.

“Dw i wir yn hoffi bod ynghlwm â rygbi rhyngwladol. Dyna le dw i eisiau bod, mewn gwirionedd. Felly os dw i’n hyfforddwr cynorthwyol neu’n brif hyfforddwr – does dim ots.

“Ond, os caf gynnig i fod yn Brif Hyfforddwr rygbi’r gynghrair neu rygbi undeb – wna’i wrando arno.”

Roedd Shaun Edwards yn chwaraewr rygbi’r gynghrair i Wigan a Phrydain Fawr, a bu’n Brif Hyfforddwr ar dîm rygbi’r undeb London Wasps am tua degawd.