Fe fydd tri o chwaraewyr profiadol yn ôl i Gymru yn erbyn Iwerddon ddydd Sadwrn – y cefnwr Leigh Halfpenny, yr asgellwr Liam Williams a’r maswr Dan Biggar.

Mae’n golygu bod y chwaraewyr ifanc addawol, Josh Adams a Rhys Patchell yn colli eu lle ac heb hyd yn oed gael lle ar y fainc wrth i’r tîm hyfforddi fynd am brofiad rhai fel Gareth Anscombe.

Dyna lle y bydd yr asgellwr arall, George North, sy’n golygu bod asgellwr ifanc y Scarlets, Steff Evans, yn cadw ei le.

Mae’r rheng ôl yn y blaenwyr yn aros yr un peth – gyda Josh Navidi yn cadw Justin Tipuric allan a Ross Moriarty’n cadw’i le yn wythwr.

Profiad – “grêt”, meddai Gatland

“Mae’n grêt gallu dod â chymaint o brofiad yn ôl i’r XV cychwynnol ac i’r llinell ôl,” meddai’r prif hyfforddwr, Warren Gatland.

“Dyma’r wythnos gynta’ i ni gael pawb yn iach, sy’n beth braf a phositif cyn gêm brawf yn erbyn tîm da iawn o Iwerddon.

“R’yn ni wedi bod yn falch o’r dyfnder yr ’yn ni wedi ei  ddatblygu yn y tri ôl ac yn falch gyda pherfformiad y chwaraewyr hynny ond mae cael profiad Dan, Liam a Leigh yn ôl yn bwysig iawn.”

Y tîm yn llawn

Leigh Halfpenny; Liam Williams, Scott Williams, Hadleigh Parkes, Steff Evans; Dan Biggar, Gareth Davies; Rob Evans, Ken Owens, Samson Lee; Cory Hill, Alun Wyn Jones; Aaron Shingler, Josh Navidi, Ross Moriarty.

Eilyddion: Elliot Dee, Wyn Jones, Tomas Francis, Bradley Davies, Justin Tipuric, Aled Davies, Gareth Anscombe, George North.