Mae un o hyfforddwyr tîm rygbi Cymru wedi cyhoeddi bod pob aelod o’r garfan yn ffit i chwarae yn erbyn Iwerddon ddydd Sadwrn (Chwefror 24).

Er i Dan Biggar, Taulupe Faletau a Leigh Halfpenny, fethu’r gêm yn erbyn Lloegr ar Chwefror 10, mae’n debyg bod y triawd bellach yn ôl yn ymarfer â’r garfan.

Ac yn ogystal â hynny, mae’n debyg bod George North, a’i gydchwaraewr  â’r Llewod, Liam Williams, bellach yn ddigon ffit i chwarae.

“Mae pawb wedi cael cadarnhad i chwarae,” meddai’r hyfforddwr Robin McBryde. “Mae’n dda cael pawb yn ôl, a bod pawb yn bositif a hyderus wrth edrych ymlaen at ddydd Sadwrn.”

 Chymru yn teithio i Ddulyn ar gyfer gêm nesa’ Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, mae Robin McBryde hefyd wedi dweud bod gan y garfan “fantais gystadleuol”.