Ar drothwy canfed gêm Warren Gatland yn brif hyfforddwr ar dîm rygbi Cymru, mae’r bachwr Ken Owens wedi dweud nad yw’r dyn o Seland Newydd yn cael digon o glod.

Fe fydd Cymru’n teithio i Ddulyn y penwythnos nesaf i herio Dulyn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Dim ond Graham Henry sydd wedi bod wrth lyw un tîm cenedlaethol am fwy o gemau (103), ac mae disgwyl i Gatland fynd heibio’r ffigwr hwnnw yn ystod taith Cymru i’r Ariannin yn yr haf.

O dan ei arweiniad, mae Cymru wedi ennill tair Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, dwy Gamp Lawn ac wedi cyrraedd rownd gyn-derfynol Cwpan y Byd.

Ond fe fydd yn gadael ei swydd ar ôl Cwpan y Byd yn Siapan y flwyddyn nesaf.

‘Profi ei hun’

Yn ôl bachwr Cymru, Ken Owens, dydy Warren Gatland ddim wedi derbyn digon o glod am ei waith, ac mae’n dweud bod rhaid iddo “brofi ei hun” dro ar ôl dro.

“Y tu fewn a’r tu allan i Gymru, am ryw reswm, mae e bob amser wedi gorfod – nid esbonio’i hun – ond profi ei hun, er ei fod e wedi helpu i drawsnewid Cymru.

“Ry’n ni wedi bod yn ei chanol hi ond dyw pethau ddim bob amser wedi mynd yn iawn, ond ry’n ni bron â bod yno sawl gwaith ac ry’n ni’n dîm anodd iawn i’n torri i lawr.

“Ry’n ni wedi ennill tair Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a dwy Gamp Lawn yn ystod y deng mlynedd diwethaf, ac mae e wedi ennill un gyfres y Llewod a chael un gyfres gyfartal.”

Ychwanegodd fod Warren Gatland yn “hyfforddwr gwych, ac mae ei waith gyda’r Llewod wedi’i osod e ymhlith y goreuon”.