Mae Alex Cuthbert, wedi gorfod gadael carfan Cymru am y tro yn sgil derbyn niwed i’w ben-glin.

Yn ôl Undeb Rygbi Cymru, fe dderbyniodd y niwed yn dilyn sesiwn hyfforddiant olaf y Gleision yr wythnos ddiwethaf, a hynny cyn iddyn nhw wynebu’r Toyota Cheetas yng nghystadleuaeth y Pro14 dros y penwythnos.

Mae’r asgellwr, sydd wedi ennill 47 o gapiau dros Gymru, heb ymddangos yn y crys coch ers hydref y llynedd, a hynny yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Georgia.

A does dim disgwyl iddo wneud ymddangosiad am y pedair i chwe wythnos nesaf wrth iddo fynd o dan y gyllell.

Anafiadau Cymru

Alex Cuthbert yw’r chwaraewr diweddaraf sy’n gorfod bod yn absennol o’r garfan ar gyfer cystadleuaeth y Chwe Gwlad eleni, gyda Sam Warburton, Jonathan Davies, Rhys Webb, Dan Lydiate a Rhys Priestland hefyd yn dioddef o anafiadau.

Bu raid i Leigh Halfpenny golli’r gêm yn erbyn Lloegr ddydd Sadwrn diwethaf hefyd, a hynny oherwydd haint ar ei droed.