Benetton 22–12 Scarlets

Colli fu hanes y Scarlets wrth iddynt deithio i’r Stadio Comunale di Monigo yn Nhreviso i herio Benetton yn y Guinness Pro14 brynhawn Sul.

Sgoriodd yr Eidalwyr bedwar cais mewn buddugoliaeth bwynt bonws.

Croesodd y tîm cartref am ddau gais yn yr hanner cyntaf, y naill i Tommaso Iannone a’r llall i Monty Ioane.

Croesodd Ioane am ei ail yn gynnar yn yr ail hanner cyn i gais Corey Baldwin roi llygedyn o obaith i Fois y Sosban ddeunaw munud o’r diwedd.

Diflannodd y llygedyn hwnnw’n fuan wedyn wrth i gais Marco Zanon sicrhau’r fuddugoliaeth a’r pwynt bonws i Benetton a chais cysur yn unig a oedd sgôr hwyr Tadgh Beirne.

Mae’r Scarlets yn llithro i’r ail safle yn nhabl cyngres B y Pro14 yn dilyn y golled.

.

Benetton

Ceisiau: Tommaso Iannone 25’, Monty Ioane 38’, 51’, Marco Zanon 66’

Trosiad: Tito Tebaldi 51’

.

Scarlets

Ceisiau: Corey Baldwin 63’, Tadgh Beirne 77’

Trosiadau: Dan Jones 63’