Lloegr 12–6 Cymru

Colli fu hanes Cymru wrth iddynt ymweld â Twickenham i herio Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad nos Sadwrn.

Rhoddodd dau gais Jonny May fantais gynnar i Loegr ac roedd eu hamddiffyn yn rhy drefnus er gwaethaf ymdrech lew yr ymwelwyr o Gymru.

Hanner Cyntaf

Er i Gymru ddechrau’n addawol fe groesodd Lloegr am gais cyntaf y gêm wedi dim ond tri munud, cic Owen Farrell yn rhoi Johnny May mewn erwau o le i lithro drosodd.

Ymestynnodd May fantais y Saeson hanner ffordd trwy’r hanner gyda’i ail gais ef ac ail ei dîm, yn casglu dadlwythiad Joe Launchbury wedi cyfnod hir o bwyso gan y tîm cartref.

Llwyddodd Farrell gyda’r trosiad i roi ei dîm ddeuddeg pwynt ar y blaen.

Cymru a gafodd y gorau o’r ail chwarter ac roedd hi’n ymddangos fod Gareth Anscombe wedi tirio ond nid felly y gwelodd y dyfarnwr fideo bethau, penderfyniad allweddol o ystyried y canlyniad yn y diwedd.

Fe ddaeth pwyntiau cyntaf i Gymru serch hynny, Rhys Patchell yn llwyddo gyda thri phwynt syml o flaen y pyst ar ôl methu cynnig cynharach o bellter.

Ail Hanner

Cafodd Cymru ddigon o feddiant yn yr ail hanner ond roedd gormod ohono yn eu hanner eu hunain ac roedd amddiffyn Lloegr i fyny’n gyflym bob tro, yn troedio’r ffin gamsefyll denau honno.

Roedd Aaron Shingler yng nghanol popeth i Gymru ond Scott Williams a ddaeth agosaf at groesi ac roedd angen tacl dda gan y cyn Walch, Sam Underhill, i’w atal rhag llithro drosodd yn y gornel.

Fe lwyddodd Cymru i gofnodi pwyntiau haeddiannol yn y diwedd gyda chic gosb o droed Anscombe dri munud o’r diwedd.

Rhoddodd hynny Cymru o fewn sgôr ond er cadw’r bêl am sawl cymal o’r ail ddechrau, methu dianc o’u hanner eu hunain a oedd eu hanes wrth i Loegr ddal eu gafael ar y fuddugoliaeth.

Pwynt bonws i Gymru felly ond cyfle wedi ei golli heb os yn dilyn perfformiad ymosodol gwael gan Loegr.

.

Lloegr

Ceisiau: Jonny May 3’, 20’

Trosiad: Owen Farrell 21’

.

Cymru

Ciciau Cosb: Rhys Patchell 24’, Gareth Anscombe 77’