Dreigiau 15–15 Glasgow

Gorffennodd hi’n gyfartal wrth i’r Dreigiau groesawu Glasgow i Rodney Parade yn y Guinness Pro14 nos Wener.

Daeth y pwyntiau i gyd yn yr hanner cyntaf wrth i’r ddau dîm groesi am ddau gais yr un.

Dechreuodd y Dreigiau ar dân gyda’r bachwr, Liam Belcher, yn hyrddio drosodd yn y gornel wedi dim ond dau funud yn dilyn ffug bas effeithiol.

Unionodd Glasgow bethau wedi chwarter awr wrth i Brandon Thompson dirio wedi cic ddeheuig George Horne dros yr amddiffyn.

Rhoddodd cic gosb Adam Hastings yr ymwelwyr ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyn i gais Horne a throsiad Hastings ymestyn y fantais i ddeg pwynt, y mewnwr yn croesi wedi bylchiad Nick Grigg.

Caeodd Zane Kirchner y bwlch i saith gyda chic gosb dri munud cyn yr egwyl ac roedd hi’n gyfartal wrth droi diolch i gais Jared Rosser, yr asgellwr yn croesi wedi gwrthymosodiad gwych gan Hallam Amos o’i linell 22 medr ei hun.

Wedi deugain munud cyntaf digon difyr, nid oedd yr ail hanner cystal. Cafodd y ddau dîm eu cyfnodau ond methodd y naill dîm na’r llall ag ychwanegu at y sgôr. Gorffen yn gyfartal a wnaeth hi felly, pymtheg pwynt yr un.

Mae’r canlyniad yn cadw’r Dreigiau yn chweched yng nghyngres B y Pro14.

.

Dreigiau

Ceisiau: Liam Belcher 2’, Jared Rosser 38’

Trosiad: Zane Kirchner 39’

Cic Gosb: Zane Kirchner 37’

.

Glasgow

Ceisiau: Brandon Thompson 15’, George Horne 24’

Trosiad: Adam Hastings 25’

Cic Gosb: Adam Hastings 20’