Ar drothwy’r gêm anferthol yn Twickenham amser te fory, mae hyfforddwr Lloegr wedi bod yn cwestiynu gallu un o chwaraewyr Cymru.

Yn ôl Eddie Jones, fe fydd cyd-chwaraewyr y maswr Rhys Patchell yn amau a oes ganddo’r gallu i chwarae yn dda yn erbyn y Saeson.

Mae hyfforddwr Lloegr wedi bod yn pwysleisio’r ffaith bod Rhys Patchell yn gymharol ddibrofiad ar y lefel rhyngwladol, wrth iddo lenwi esgidiau Dan Biggar sydd wedi ei anafu.

Gêm yfory fydd seithfed cap y maswr o Gaerdydd sy’n chwarae i’r Scarlets.

Fe gafodd y chwaraewr 24 oed gêm ragorol wrth i Gymru drechu’r Alban 34-7 y Sadwrn diwethaf.

Ond mae Eddie Jones yn rhybuddio y bydd Rhys Patchell yn wynebu her galetach yn erbyn y Saeson.

“Mae hi yn hawdd chwarae ar y droed flaen pan mae’r bêl yn mynd o ochr i ochr,” meddai hyfforddwr Lloegr.

“Ond pan mae pethau yn dynn a chyflym, bydd hwn yn Brawf go-iawn.

“Dyna pryd gawn ni weld os oes gan Patchell y gallu i ymdopi.”

Aeth Eddie Jones yn ei flaen i bwysleisio’r gwahaniaeth o ran profiad rhwng mewnwr, maswr a rhif 12 Lloegr, a’r chwaraewyr yn y safleoedd hynny i Gymru.

“Mae George Ford wedi chwarae 41 o gemau prawf ac mae ganddo Owen Farrell wrth ei ochr sydd wedi chwarae 54 o gemau prawf a Danny Care y tu fewn iddo, yn chwarae ei 78fed gêm ryngwladol.

“Mae yna brofiad helaeth ar y ddwy ochr. Ond am bwy fydd Patchell yn chwilio? Does ganddo fawr o brofiad y tu fewn nag y tu allan iddo.

“Mae yn wynebu tasg fawr. Bydden i’n dychmygu pan fydd Alun Wyn Jones a’r hogiau yn mynd am frecwast fore Sadwrn, y byddan nhw yn edrych [ar Rhys Patchell] ac yn meddwl: ‘A ydi’r bachgen yma am fedru dal y pwysau heddiw?’”

Mae disgwyl 82,000 yn Twickenham ar gyfer Lloegr v Cymru, gyda’r gic gyntaf am 4.45yp, a’r gêm yn fyw ar S4C.