Mae’r tîm rygbi merched Cymru a’r tîm dan 20 oed yn cychwyn y Chwe Gwlad heno yn y gogledd, a’u gemau’n cael eu darlledu’n fyw ar BBC 2 Cymru.

Bydd y menywod yn wynebu’r Alban ym Mharc Eirias, Bae Colwyn am chwech o’r gloch heno, gyda gêm y dynion dan 20 i ddilyn ar yr un cae yn hwyrach am 8:15.

Gellir gwylio’r ddwy gêm ar BBC 2 yng Nghymru o 5:45 ymlaen heno, gyda’r cyn-chwaraewyr rhyngwladol, Caryl James a Nick Robinson yn westeion, ynghyd â chyn-hyfforddwr y Gweilch, Sean Holley.

Mae pencampwriaeth y dynion yn dechrau fory yng Nghaerdydd, pan fydd Cymru yn wynebu’r Alban yn y Stadiwm Principality, Caerdydd, am 2:15 y p’nawn.