Bydd y to ar gau ar gyfer gêm gynta’r Cymry ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yfory.

Mae’r Albanwyr yn heidio i Gaerdydd yn llawn hyder, wedi iddyn nhw roi sgwrfa i Awstralia yn yr Hydref, ac maen nhw wedi cytuno i chwarae dan do.

Mae Cymru wastad eisiau chwarae dan do, ond y gwrthwynebwyr sy’n cael y gair olaf bob tro.

Mae disgwyl glaw yng Nghaerdydd b’nawn yfory, ond gyda’r to ar gau ni fydd gwlybaniaeth yn ffactor wrth i’r ddwy wlad fynd ben-ben â’i gilydd, gyda’r gic gyntaf am 2.15 y p’nawn.

Yr Alban yn ffefrynnau?

Er nad yw’r Alban wedi ennill yng Nghaerdydd ers 16 o flynyddoedd, mae Dirprwy Hyfforddwr Cymru yn dweud mai nhw yw’r ffefrynnau.

Fe gurodd Yr Alban y Cymry yng Nghaeredin yn y Chwe Gwlad y llynedd, ac mae’r gwynt yn eu hwyliau wedi iddyn nhw drechu Awstralia a rhoi gêm andros o galed i Seland Newydd.

“Dan arweiniad Gregor Townsend, maen nhw yn chwarae rygbi gwych ac fe wnaethon nhw yn hynod dda yn yr Hydref,” meddai Rob Howley.

“Fe wnaethon nhw ein curo ni’r llynedd ac maen nhw yn dod i Gaerdydd yn ffefrynnau. Maen nhw wedi cael hwb gan eu perfformiadau ac mae hi am fod yn gêm wych.”

Tîm Cymru ar gyfer y gêm:

Leigh Halfpenny (Scarlets); Josh Adams (Caerwrangon); Scott Williams (Scarlets); Hadleigh Parkes (Scarlets); Steff Evans (Scarlets); Rhys Patchell (Scarlets); Gareth Davies (Scarlets); Rob Evans (Scarlets); Ken Owens (Scarlets); Samson Lee (Scarlets); Cory Hill (Y Dreigiau); Alun Wyn Jones (Y Gweilch); Aaron Shingler (Scarlets); Josh Navidi (Y Gleision); Ross Moriarty (Caerloyw).

Eilyddion

Elliot Dee (Y Dreigiau); Wyn Jones (Scarlets); Tomas Francis (Caerwysg); Bradley Davies (Y Gweilch); Justin Tipuric (Y Gweilch); Aled Davies (Scarlets); Gareth Anscombe (Y Gleision); Owen Watkin (Y Gweilch).