Mae prif hyfforddwr rygbi Cymru, Warren Gatland, wedi cyhoeddi’r garfan a fydd yn wynebu’r Alban yn Stadiwm y Principality ddydd Sadwrn yma (Chwefror 3), yng ngêm agoriadol cystadleuaeth y Chwe Gwlad.

Ac ymhlith aelodau o’r garfan honno mae Josh Adams, 22 oed, sydd wedi sgorio 13 cais i’w glwb, Caerwrangon, yn ystod y tymor hwn.

Y gêm ddydd Sadwrn fydd ymddangosiad cyntaf y cefnwr o Abertawe i Gymru, er ei fod eisoes wedi chwarae i dîm Cymru dan 20 oed.

Yn ymuno â Josh Adams yn y rheng ôl fydd Leigh Halfpenny a Steff Evans, gyda Hadleigh Parkes, Scott Williams, Rhys Patchel a Gareth Davies  mewn safleoedd yng nghanol y cae.

O ran y blaenwyr wedyn, fe fydd Rob Evans, Ken Owen a Samson Lee yn ymuno â Cory Hill a’r capten, Alun Wyn Jones.

Bydd Aaron Shingler, Josh Navidi a Ross Moriarty yn y blaen gyda nhw hefyd.

“Mae’r gêm gyntaf yn erbyn yr Alban y penwythnos hwn yn bwysig iawn i ni,” medai Warren Gatland, “ac fe fydd yn gyfle da i’r grŵp hwn roi dechreuad da i ni.”

Y garfan

Leigh Halfpenny (Scarlets); Josh Adams (Caerwrangon); Scott Williams (Scarlets); Hadleigh Parkes (Scarlets); Steff Evans (Scarlets); Rhys Patchell (Scarlets); Gareth Davies (Scarlets); Rob Evans (Scarlets); Ken Owens (Scarlets); Samson Lee (Scarlets); Cory Hill (Y Dreigiau); Alun Wyn Jones (Y Gweilch); Aaron Shingler (Scarlets); Josh Navidi (Y Gleision); Ross Moriarty (Caerloyw).

Ar y fainc
Elliot Dee (Y Dreigiau); Wyn Jones (Scarlets); Tomas Francis (Caerwysg); Bradley Davies (Y Gweilch); Justin Tipuric (Y Gweilch); Aled Davies (Scarlets); Gareth Anscombe (Y Gleision); Owen Watkin (Y Gweilch).