Caerloyw 43–20 Gweilch
Colli’n drwm fu hanes y Gweilch wrth iddynt ymweld â Kingsholm i wynebu Caerloyw yn y Cwpan Eingl-Gymreig nos Wener.
Un sgôr a oedd yn gwahanu’r timau ar yr egwyl ond croesodd y tîm cartref am bump cais arall yn yr ail hanner i sicrhau buddugoliaeth gyfforddus.
Aeth Caerloyw ar y blaen gyda chais Richard Hibbard yn erbyn ei gyn glwb cyn i Mark Atkinson ychwanegu’r ail hanner ffordd trwy’r hanner.
Caewyd y bwlch gyda chais Alex Jeffries toc cyn yr egwyl cyn i sgôr Reuben Morgan-Williams unioni pethau yn gynnar yn yr ail gyfnod.
Rhoddodd cic gosb Luke Price y Gweilch ar y blaen am y tro cyntaf ond buan iawn yr aeth y gêm o’u gafael wedi hynny wrth i Gaerloyw sgorio pump cais yn yr hanner awr olaf; Callum Braley, Ollie Thorley, Henry Trinder, Ben Morgan a Matthew Scott i gyd yn croesi.
.
Caerloyw
Ceisiau: Richard Hibbard 19’, Mark Atkinson 21’, Callum Braley 51’, Ollie Thorley 56’, Henry Trinder 68’, Ben Morgan 73’, Matthew Scott 80
Trosiadau: Burns 19’, 56’, 73’, 80’
.
Gweilch
Ceisiau: Alex Jeffires 40’, Reuben Morgan-Williams 43’, Ifan Phillips 77’
Trosiad: Luke Price 40’
Cic Gosb: Luke Price 50’
Cardiau Melyn: Morgan Morris 70’, Lloyd Ashley 72’