Scarlets 30–27 Toulon
Sicrhaodd y Scarlets eu lle yn wyth olaf Cwpan Pencampwyr Ewrop gyda buddugoliaeth gofiadwy yn erbyn Toulon yn Llanelli nos Sadwrn.
Sgoriodd y tîm cartref dri chais mewn hanner cyntaf cyffrous ar Barc y Scarlets ac fe brofodd hynny’n ddigon yn y diwedd er ei bod hi’n gêm llawer tynnach wedi’r egywl.
Hanner cyntaf
Dechreuodd y Scarlets ar dân gyda Tom Prydie’n sgorio yn y gornel wedi pas hir gywir Rhys Patchell.
Ychwanegodd Dan Jones y trosiad ond ymatebodd Toulon bron yn syth gyda chais i Duane Vermulen wedi lein bump gyflym.
Cyfnewidodd Jones ac Anthony Belleau dri phwynt yr un wedi hynny cyn i Chris Ashton redeg bron i hyd y cae i sgorio wedi rhyng-gipiad, 10-15 y sgôr wedi trosiad Anthony Belleau.
Ymatebodd Bois y Sosban yn syth gyda chais i Hadleigh Parkes wedi gwaith da Aaron Shingler yn taro cic i lawr.
Llwyddodd Jones gyda’r trosiad i roi ei dîm ar y blaen cyn ychwanegu cic gosb hefyd i ymestyn y fantais i bump pwynt.
Caeodd Belleau’r bwlch i ddau cyn i Jones groesi am drydydd cais y tîm cartref wedi gwaith creu Paul Asquith.
Trosodd y maswr ei gais ei hun ond cic gosb gan faswr Toulon, Belleau, a oedd pwyntiau olaf yr hanner, 27-21 y sgôr wedi deugain munud agoriadol llawn cyffro.
Ail Hanner
Roedd hi’n gêm hollol wahanol wedi’r egwyl, diflannodd y chwarae agored cyffrous a daeth chwarae tynn dramatig i gymryd ei le.
Ymestynnodd Rhys Patchell y fantais i naw pwynt gyda mynydd o gic gosb cyn i eilydd faswr Toulon, y profiadol Francois Trinh-Duc, gau’r bwlch i dri phwynt gyda dwy gic gosb i’r ymwelwyr.
Cafwyd ymdrech amddiffynnol arwrol gan y Scarlets yn yr ugain munud olaf ac fe brofodd hynny’n ddigon yn y diwedd wrth i Francois Trinh-Duc fethu gyda chynnig am gôl adlam gyda chic olaf y gêm.
Mae’r canlyniad yn sicrhau lle Bois y Sosban ar frig grŵp 5 ac yn rownd go-gynderfynol y gystadleuaeth. Ond bydd yn rhaid iddynt aros tan ddydd Sul i ddarganfod os mai gêm gartref neu oddi cartref fydd honno.
.
Scarlets
Ceisiau: Tom Prydie 3’, Hadleigh Parkes 19’, Dan Jones 35’
Trosiadau: Dan Jones 4’, 21’, 35’
Ciciau Cosb: Dan Jones 10’, 25’, Rhys Patchell 49’
.
Toulon
Ceisiau: Duane Vermeulen 5’, Chris Ashton 17’
Trosiad: Anthony Belleau 19’
Ciciau Cosb: Anthony Belleau 16’, 28’, 40’, Francois Trinh-Duc 52’, 57’