Fe fydd Josh Lewis, yn ymuno â Dreigiau Casnewydd yr haf hwn, wedi iddo arwyddo cytundeb dwy flynedd â’r clwb.

Mae’r cefnwr 25 oed o Ferthyr Tudful ar hyn o bryd yn chwarae i Gaerfaddon, a chyn hynny bu’n chwarae i Glwb Rygbi Llanelli a Glynebwy, ac yna’r Scarlets yn y cyfnod 2013-17.

Yn ôl Josh Lewis, mae’n “hapus iawn” i ymuno â’r Dreigiau, ac yn edrych ymlaen i gydweithio â’r hyfforddwr newydd, Bernard Jackman.

“Rwy i wedi dysgu llawer yn y cyfnod y bues i gyda Chaerfaddon, ac rwy’n ddiolchgar iawn iddyn nhw, ac rwy’n siŵr y bydd hyn o gymorth mawr i mi yn y tymor newydd,” meddai.