Bordeaux-Begles 36–28 Dreigiau

Mae’r Dreigiau allan o Gwpan Her Ewrop ar ôl colli eu gêm grŵp 1 yn erbyn Bordeaux-Begles yn y Stade Jacques Chaban-Delmas nos Sadwrn.

Roedd y Cymry ar y blaen ar yr egwyl ond croesodd y tîm cartef am bedwar cais yn yr ail hanner wrth ennill yn gymharol gyfforddus yn y diwedd.

Cic gosb yr un gan Mathieu Jailbert a Dorian Jones a oedd unig bwyntiau’r ugain munud cyntaf ond fe boethodd pethau yn yr ail chwarter.

Sgoriodd James Benjamin gais i’r ymwelwyr o Gymru cyn i Jones ychwanegu’r trosiad a dwy gic gosb.

Y Ffrancwyr a gafodd air olaf yr hanner serch hynny gyda chais Jailbert yn cau’r bwlch i wyth pwynt, 8-16 y sgôr wrth droi.

Roedd y bwlch i lawr i bwynt yn gynnar yn yr ail hanner diolch i gais Blair Connor a throsiad Jailbert.

Aeth y gêm o afael y Dreigiau yn fuan wedi hynny wrth i’r Ffrancwyr groesi am dri chais mewn chwarter awr, un i Fa’asiu Fuatai a dau i Geoffrey Cros.

Roedd cais cysur i Carl Meyer ond rhy ychydig rhy hwyr oedd hynny i’r Dreigiau. Mae’r canlyniad yn eu gadael yn drydydd yn eu grŵp gyda dim ond gêm yn weddill ac mae hi bellach yn amhosib iddynt gyrraedd wyth olaf y gystadleuaeth.

.

Bordeaux-Begles

Ceisiau: Mathieu Jalibert 36’, Blair Connor 47’, Fa’asiu Fuatai 56’, Geoffrey Cros 61’, 70’

Trosiadau: Mathieu Jailbert 47’, 56’, 61’, 70’

Cic Gosb: Mathieu Jalibert 8’

.

Dreigiau

Ceisiau: James Benjamin 23’, Serel Pretorius 52’, Carl Meyer 80’

Trosiadau: Dorian Jones 23’, 52’

Ciciau Cosb: Dorian Jones 18’, 31’, 35’

Cerdyn Melyn: Angus O’Brien 15’