“Mae hi’n gêm rydan ni’n gorfod ei hennill,” meddai Wayne Pivac, hyfforddwr y Scarlets am y frwydr fawr ar y Rec yn erbyn Caerfaddon heno (nos Wener). Bydd cyn-ffefryn Parc Y Scarlets, Rhys Preistland, yn cychwyn y gêm i Gaerfaddon yng Nghwpan Ewrop ynghyd â’i gydwladwr Luke Charteris. Bydd yr ornest hefyd yn gyfle i greu argraff dda cyn cyhoeddi carfan Chwe Gwlad Cymru wythnos nesaf.

Mae tîm y Sosban yn sicr yn llai cryf oherwydd absenoldeb Steff Evans (wedi’i wahardd) Leigh Halfpenny, Jonathan Davies a Johnny McNicholl (anafiadau). Ond mae’r capten Ken Owens yn ffyddiog mai hwn yw’r cyfle gorau ers blynyddoedd i’r Scarlets ddianc o’r grŵp.

“Mae’r sefyllfa dal dan ein rheolaeth ni ein hunain,” meddai’r bachwr, “sydd yn rhywbeth nad ydan wedi’i gael ers amser maith. Os enillwn i’r ddwy gêm nesaf fyddan ni ddim yn rhy bell o fynd drwodd.”

Bydd Rhys Patchell eto’n cychwyn yn safle’r cefnwr i’r Scarlets gyda Hadleigh Parkes a Scott Williams yn parhau gyda’u partneriaeth yng nghanol y cae.

Caerfaddon oedd yn fuddugol 18-13 yng ngêm gartref y Scarlets nôl ym mis Hydref. Dywedodd Todd Blackadder, cyfarwyddwr rygbi Caerfaddon, sydd bwynt o flaen y Scarlets yn y grŵp: “Maen nhw (y Scarlets) dal yn y gystadleuaeth yma gyda phopeth i chwarae amdano, felly mae hi’n gêm anferth i’r ddau dîm.”

Caerfaddon: Watson; Banahan, Joseph, Tapuai, A Brew; Priestland, Cook; Obano, Dunn, Thomas; Stooke, Charteris, Garvey (capten), Underhill, Mercer.

Ar y fainc: Van Vuuren, Noguera, Lahiff, Phillips, Grant, Fotuali’i, Burns, Wilson.

Scarlets: Patchell; Asquith, Parkes, Williams, Prydie; D Jones, G Davies; Evans, Owens (capten), Lee, Beirne, Bulbring, Shingler, J Davies, Barclay

Ar y fainc: Elias, W Jones, Kruger, Rawlins, Macleod, ADavies, Hughes, Boyde

 

Caerfaddon v Scarlets yn fyw am 7:45 ar BT Sports.