Fe fydd Dan Lydiate yn cael llawdriniaeth ar ran uchaf ei fraich yr wythnos hon, ar ôl diodde’ anaf yn ystod buddugoliaeth y Gweilch yn erbyn y Dreigiau nos Galan.
Fe adawodd y blaenasgellwr y maes yn ystod yr hanner cyntaf yn Rodney Parade, a’r disgwyl yw y bydd yn colli gweddill gemau’r tymor.
“Ar ôl siarad ag ymgynghorwyr a gofyn am farn arbenigol, cymerwyd y penderfyniad, er lles Dan, i gael llawdriniaeth,” meddai Chris Towers, Rheolwr Perfformiad Meddygol y rhanbarth.
“Bydd y broses honno’n digwydd yr wythnos hon, ac felly fe fydd e mwy na thebyg mas ohoni am weddill y tymor presennol.”
Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.
Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.