Mae’r chwaraewr rygbi rhyngwladol, Matthew Morgan, wedi arwyddo cytundeb newydd a fydd yn ei weld yn aros gyda’r Gleision am y blynyddoedd nesaf.

Daeth cytundeb y cefnwr 25 oed i ben yn ystod yr haf, ond fe fydd y cytundeb newydd hir-dymor hwn yn golygu y bydd yn aros yn y brifddinas.

Y cyn-ddisgybl o Ysgol Uwcrhadd Bryn-teg ym Mhenybont-ar-Ogwr – sydd wedi ennill pum cap dros Gymru – yw’r degfed chwaraewr i sichrau ei le gyda’r Gleision yn ystod yr wythnosau diwethaf, gan ddilyn esiampl ei gyd-chwaraewyr disglair Ellis Jenkins, Macauley Cook a Lloyd Williams.

Ymunodd Matthew Morgan â’r clwb yn gyntaf yn ystod tymor 2016-17, gan wisgo’r crys 43 o weithiau ar y cae, a sgorio cyfanswm o 11 cais – gyda phump o’r rheiny yn ystod pum gêm diwethaf y clwb gartref ym Mharc yr Arfau.

Parc yr Arfau yn “lle arbennig”

Mae’n dweud ei fod yn “hapus” i barhau gyda’r Gleision, a bod Parc yr Arfau yn safle “arbennig” i chwarae arno.

“Dw i’n teimlo fy mod i wedi gwella ers dod yn aelod o Gleision Caerdydd”, meddai, “ac mae pethau wedi mynd yn dda i mi yn ystod y tymor hwn.

“Ond fel chwaraewr, r’ych chi wastad yn teimlo bod angen gwella ar y cae ac oddi arno, ac rwy’n llwyr ymrwymiedig i barhau gyda hynny.”