Daeth cadarnhad bod Olly Robinson yn symud at y Gleision ar unwaith.

Roedd disgwyl i’r blaenasgellwr, mab yr hyfforddwr rygbi Andy Robinson, ymuno â’r rhanbarth y tymor nesaf ar ôl sicrhau trosglwyddiad o Fryste.

Ond mae wedi cael ei ryddhau o’i gytundeb yn gynnar ar ôl cyfnod llwyddiannus ar fenthyg yng Nghaerdydd.

Mae wedi serennu, gan ennill dwy wobr seren y gêm mewn naw gêm ar ôl cael ei arwyddo i lenwi bwlch yn sgil anafiadau i Sam Warburton, Ellis Jenkins a James Botham.

Fe fydd Sam Warburton allan am weddill y tymor, ac mae disgwyl i Josh Navidi fod yng ngharfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn y flwyddyn newydd.