Mae’n debyg bod Seintiau Northampton yn ystyried y posibiliad o benodi Warren Gatland yn hyfforddwr ar eu clwb.

Yn ôl Llywydd y Seintiau, Keith Barwell, mae’r clwb yn ystyried “y ffigyrau mawr” gan gynnwys Prif Hyfforddwr Cymru –  sydd o “ddiddordeb” iddyn nhw.

Cafodd cyn-Hyforddwr Northampton, Jim Mallinder, ei ddiswyddo ddydd Mawrth (Rhagfyr 12) wedi degawd wrth y llyw.

“Y ffigyrau mawr”

“Pan wnaethom ni benodi Jim, roedd Warren Gatland ar y rhestr fer,” meddai Keith Barwell wrth The Mirror. “Gwnaethom benderfynu beidio â’i alw adeg hynny. Ond, waeth i ni roi ail gyfle iddo.

“Nid fi fydd yn dewis yr hyfforddwr, mae gennym bwyllgor sydd yn gwneud hynny. Ond, dw i eisiau i bobol ddeall ein bod yn canolbwyntio ar y ffigyrau mawr.

“Felly, oes, mae gennym ni ddiddordeb yn Warren.”

Mae Warren Gatland dan gytundeb ag Undeb Rygbi Cymru tan 2019.