Gweilch 32–15 Northampton
Mae gobeithion y Gweilch yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop yn fyw o hyd wedi buddugoliaeth gyfforddus dros Northampton ar y Liberty brynhawn Sul.
Dimitri Arhip, Rhys Webb (2) a Justin Tipuric a gafodd y ceisiau wrth i’r Cymry sicrhau buddugoliaeth bwynt bonws.
Daeth y cais cyntaf i Arhip wedi dim ond dau funud ond dwy gic gosb o droed Sam Davies a oedd unig bwyntiau eraill yr hanner cyntaf.
Yn yr wythnos y cafodd ei dad, Jim, ei ddiswyddo fel hyfforddwr Northampton, Harry Mallinder a sgoriodd gais cyntaf yr ail hanner. Ychwanegodd Piers Francis gic gosb ychydig funudau’n ddiweddarach a dim ond tri phwynt oedd yn gwahanu’r ddau dîm.
Cafodd y Gweilch gyfnod da wedi hynny yn sgorio tri chais mewn cyfnod o chwarter awr, dau i Webb ac un i Tipuric.
Roedd y fuddugoliaeth a’r pwynt bonws yn ddiogel wedi hynny a chais cysur yn unig a oedd ymdrech hwyr Jamie Gibson i’r ymwelwyr.
Mae’r fuddugoliaeth yn rhoi’r Gweilch yn ail yng ngrŵp 2, bump pwynt tu ôl i Clermont ar y brig ond ddau yn glir o Saracens sydd yn drydydd.
.
Gweilch
Ceisiau: Dimitri Arhip 2’, Rhys Webb 56’, 69’, Justin Tipuric 66’
Trosiadau: Sam Davies 57’, 67’, 70’
Ciciau Cosb: Sam Davies 25’, 31’
.
Northampton
Ceisiau: Harry Mallinder 46’, Jamie Gibson 80’
Trosiad: Harry Mallinder 80’
Cic Gosb: Piers Francis 51’