Gleision 14–6 Sale

Mae’r Gleision bedwar pwynt yn glir ar frig grŵp 2 Cwpan Her Ewrop yn dilyn buddugoliaeth dros Sale ar Barc yr Arfau brynhawn Sul.

Cic gosb yr un gan Gareth Asncombe ac Will Cliff oedd unig bwyntiau hanner cyntaf gwlyb yng Nghaerdydd.

Daeth unig gais y gêm yn gynnar yn yr ail gyfnod pan lithrodd Matthew Morgan drosodd yn y gornel chwith wedi pas Anscombe.

Ychwanegodd Anscombe ddwy gic gosb arall wedi hynny ac roedd un i Cliff hefyd wrth iddi orffen, 14-6 o blaid y tîm cartref.

Mae’r canlyniad yn rhoi’r Cymry yn glir ar frig eu grŵp cyn iddynt groesawu Toulouse i Barc yr Arfau yn y gêm nesaf mis Ionawr.

.

Gleision

Ceisiau: Matthew Morgan 48’

Ciciau Cosb: Gareth Anscombe 10’, 55’, 75’

.

Sale

Ciciau Cosb: Will Cliff 14’, 66’