Mae tîm rygbi Cymru’n hapus i fod o dan y radar ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, yn ôl y prif hyfforddwr, Warren Gatland.

Lloegr, Iwerddon a’r Alban sy’n cael y sylw yn dilyn gemau’r hydref, ond fe allai hynny fod o gymorth i’w dîm, meddai.

Ers i Gymru ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2013, mae Lloegr ac Iwerddon wedi ei hennill hi ddwywaith yr un.

Hydref digon cymysg gafodd Cymru, gyda buddugoliaethau dros Dde Affrica a Georgia, ond colli oedd eu hanes yn erbyn Seland Newydd ac Awstralia.

Serch hynny, fe fydd rhai o’u prif chwaraewyr – gan gynnwys y capten Sam Warburton, George North, Liam Williams, Ross Moriarty a Justin Tipuric – yn dychwelyd ar gyfer y Bencampwriaeth.

Cynllunio

Dywedodd Warren Gatland y bydd e’n cyfarfod â’i hyfforddwyr ddydd Mawrth i ddechrau’r gwaith o gynllunio ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

“Mae’n gystadleuaeth felly rydych chi eisiau mynd allan a gwneud eich gorau glas,” meddai. “O ystyried lle mae’r timau i gyd, mae’n mynd i fod yn un o’r pencampwriaethau Chwe Gwlad agosaf ers amser hir.

“Mae llawer o bobol wedi bod yn canmol y timau eraill, a boed i hynny barhau am amser hir o’n safbwynt ni.

“O ystyried lle’r ydyn ni yn nhermau nifer yr anafiadau a’r diffyg profiad oedd gyda ni [yn ystod yr hydref], dw i’n credu ein bod ni mewn lle da ar hyn o bryd.”