Fe fydd Scott Williams yn symud o’r Scarlets at y Gweilch ar ddiwedd y tymor rygbi hwn.

Mae’r canolwr 27 oed, sydd wedi chwarae dros Gymru 50 o weithiau, wedi llofnodi cytundeb tair blynedd.

Fe fydd canolwr y Gweilch, Kieron Fonotia yn symud i’r cyfeiriad arall y tymor nesaf.

Dywedodd Scott Williams mewn datganiad nad oedd yn “benderfyniad hawdd” i’w wneud, ond ei fod yn benderfyniad cywir “ar yr adeg yma yn fy nghyrfa”.

Dywedodd prif hyfforddwr y Gweilch, Steve Tandy fod “Scott yn chwaraewr o safon sydd wedi llwyddo’n gyson ar lefel ucha’r gêm ac a fyddai’n ychwanegiad i’w groesawu at unrhyw garfan”.

Ychwanegodd y byddai’r newyddion “yn cyffroi’r cefnogwyr”.

Gyrfa

Chwaraeodd Scott Williams ei gêm gyntaf i’r Scarlets yn 2010 cyn ennill ei gap cyntaf y flwyddyn ganlynol, ac mae e wedi chwarae yng Nghwpan y Byd ddwywaith.

Dywedodd rheolwr cyffredinol y Scarlets, Jon Daniels fod trafodaethau ers peth amser i’w gadw ar Barc y Scarlets.

“Weithiau, er gwaethaf ymdrechion pawb, mae chwaraewr yn penderfynu y dylai pennod nesaf ei yrfa fod gyda chlwb arall.”

Diolchodd i Scott Williams am ei wasanaeth “yn chwaraewr, ond hefyd yn is-gapten ac yn gapten, gan arwain y clwb â balchder”.