Mae disgwyl i ganolwr y Scarlets, Hadleigh Parkes gael ei enwi yn nhîm rygbi Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn De Affrica ar ôl cymhwyso’n swyddogol.

Fe fu’n byw yng Nghymru ers tair blynedd.

Ac fe allai fod yn bartner yng nghanol y cae i Scott Williams neu Owen Watkin.

Fydd Owen Williams na Jamie Roberts ddim ar gael ar ôl dychwelyd i’w clybiau yn Lloegr gan fod y gêm y tu allan i’r ffenest ryngwladol.

A fydd y maswr Rhys Priestland na’r prop Tomas Francis ddim ar gael am yr un rheswm.

Ond mae gan Taulupe Faletau, sy’n chwarae i Gaerfaddon, gymal yn ei gytundeb sy’n ei eithrio o’r rheolau er y gallai’r clwb wynebu dirwy gan Undeb Rygbi Lloegr (RFU).

“Ychwanegiad gwych”

Yn ôl is-hyfforddwr Cymru, Neil Jenkins, mae Hadleigh Parkes yn “ychwanegiad gwych” i’r garfan.

“Mae ganddo fe nifer o gryfderau. Mae’n cario’n dda ac yn dda iawn yn amddiffynol.”

Ychwanegodd fod ganddo fe “gynildeb” yn ei chwarae, a’i fod yn gallu chwarae yng nghrys rhif 12 neu 13.