Southern Kings 30–34 Scarlets
Dechreuodd y Scarlets eu taith o Dde Affrica yn y Guinness Pro14 gyda buddugoliaeth dros y Southern Kings brynhawn Sul.
Roedd hi’n gêm agos yn Stadiwm Bae Nelson Mandela gyda’r fantais yn newid dwylo ar sawl achlysur ond yr ymwelwyr o Gymru aeth â hi o bedwar pwynt yn y diwedd.
Cafodd y Scarlets ddechrau da gyda chais i Tadgh Beirne wedi dim ond pum munud ond tarodd y Kings nôl gyda dau gais da.
Deilliodd y ddau gais o giciau lletraws dda, Michael Makase yn casglu cic Oliver Zono ar gyfer y cyntaf cyn i Yaw Penxe elwa o gic gywir Berton Klaasen ar gyfer yr ail.
Ciciau cosb a oedd unig bwyntiau arall yr hanner cyntaf, dwy gan Zono i’r Kigs ac un gan Dan Jones i’r Scarlets, 16-10 y sgôr wrth droi.
Ymetynnodd y tîm cartref eu mantais ym munudau agoriadol yr ail hanner wrth i Martin du Toit blethu ei ffordd trwy amddiffyn y Scarlets yn rhy rhwydd o lawer.
Tarodd Bois y Sosban nôl gyda dau gais cyflym toc cyn yr awr. Daeth y cyntaf i Ioan Nicholas ar yr asgell chwith wedi pas hir gywir Dan Jones a’r ail wrth i’r prop, Werner Kruger, hyrddio’i hun at y gwyngalch trwy bentwr o gyrff.
Cyfle’r gwŷr o Dde Affrica i fynd nôl ar y blaen oedd hi chwarter awr o’r diwedd wrth i’r bêl adlamu’n garedig i Harlon Klaasen wedi cic obeithiol Berton Klaasen.
Roedd y Cymry ar y blaen drachefn bum munud yn ddiweddarch wedi i Dan Jones ganfod bwlch mawr wrth fôn ryc.
Trosodd y maswr ei gais ei hun i roi pedwar pwynt o fantais i’w dîm ac felly yr arhosodd hi tan y diwedd, 30-34 y sgôr terfynol.
.
Southern Kings
Ceisiau: Michael Makase 10’, Yaw Penxe 17’, Martin du Toit 42’, Harlon Klaasen 66’
Trosiadau: Oliver Zono 43’, Kurt Coleman 67’
Ciciau Cosb: Oliver Zono 26’, 40’
.
Scarlets
Ceisiau: Tadhg Beirne 5’, Ioan Nicholas 51’, Werner Kruger 57’ Dan Jones 70’
Trosiadau: Dan Jones 6’, 53’, 58’, 72’
Ciciau Cosb: Dan Jones 35’, 62’