Asgellwyr “oedd y gwahaniaeth, fwy na thebyg” rhwng Seland Newydd a Chymru, wrth i’r Crysau Duon guro Cymru o 33-18 yng Nghaerdydd neithiwr.

Dyna farn prif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wrth iddo ymateb i’r degfed colled ar hugain o’r bron yn erbyn Seland Newydd.

Sgoriodd Rieko Ioane a Waisake Naholo ddau gais yr un i atal Cymru rhag sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf dros y Crysau Duon ers 1953.

Dywedodd Warren Gatland: “Cyn y gêm, dywedais i mai’r her fawr i ni oedd fod gyda ni gyfle da i ennill pe baen ni’n gallu atal cyflymdra a grym eu hasgellwyr nhw.

“Yn anffodus, dyna’r gwahaniaeth, fwy na thebyg, rhwng y ddau dîm. Sgorion nhw bedwar cais rhyngddyn nhw.”

Dechrau’n gryf

Cymru gafodd y dechrau gorau yn y chwarter awr cyntaf wrth iddyn nhw roi pwysau ar Seland Newydd ac roedd hi’n dal yn agos ar yr hanner, gyda dim ond un pwynt rhyngddyn nhw.

Ychwanegodd Warren Gatland: “Ar yr hanner, roedden ni’n teimlo ein bod ni’n sicr yn dal yn y gêm ac yn eithaf cyfforddus. Y neges bryd hynny oedd bod yn gywir.

“Yn anffodus, roedd eiliadau allweddol lle nad oedden ni’n gallu gwneud hynny. Yn erbyn y tîm gorau yn y byd, fe wnaethon nhw fanteisio ar ddau neu dri o’r eiliadau hynny ond wnaethon ni ddim.”

‘Goleuni ar y gorwel’

Yn ôl prif hyfforddwr Seland Newydd – a chyn-brif hyfforddwr Cymru – Steve Hansen, mae “goleuni ar y gorwel” i Gymru.

“Chwaraeodd Cymru yn arbennig o dda. Roedd hi’n gêm rygbi dda, gêm bêl-droed wych.

 

“Maen nhw’n defnyddio’r bêl dipyn mwy. Fe ddangoson ni dipyn o led ac fe gawson nhw ambell gyfle nad oedden nhw wedi’u gorffen.

“Tra byddan nhw wedi cael siom o golli’r gêm, dw i’n meddwl y byddwn ni’n gweld bod rhywfaint o oleuni ar y gorwel o ran lle maen nhw eisiau mynd.”