Mae amheuon a fydd Liam Williams yn gwella o anaf i’w goes mewn da bryd i herio Seland Newydd yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn nesaf.

Aeth cefnwr Cymru oddi ar y cae yn ystod y fuddugoliaeth o 13-6 dros Georgia brynhawn ddoe.

Byddai ei golli yn ergyd drom i Gymru yn dilyn ei berfformiad yn erbyn y Crysau Duon ar daith y Llewod dros yr haf, wrth greu cais i’r blaenasgellwr Sean O’Brien.

Mae newyddion gwell o safbwynt Justin Tipuric, sydd wedi gwella o anaf i’w goes, ac mae disgwyl iddo fod ar gael ar gyfer y gêm.

 

“Dw i ddim yn sicr o ran Liam Williams,” meddai’r prif hyfforddwr, Warren Gatland. “Mae e’n hercian.”

Fe fydd e’n allweddol i obeithion Cymru o guro Seland Newydd wrth iddyn nhw geisio osgoi degfed colled ar hugain yn olynol yn eu herbyn.