Mae Warren Gatland wedi gwadu honiadau bod tîm rygbi Cymru wedi manteisio ar reolau cymhleth er mwyn sicrhau buddugoliaeth o 13-6 dros Georgia yng Nghaerdydd brynhawn ddoe.

Cafodd y prop Tomas Francis ei anfon o’r cae am ddeng munud yn ystod yr amser a ganiateir am anafiadau, ac roedd Nicky Smith a Leon Brown, y ddau brop arall, eisoes wedi dod oddi ar y cae.

Yn dilyn trafodaeth hir rhwng y dyfarnwr a’i gynorthwywyr, daeth hi i’r amlwg nad oedd yr un o’r ddau yn ffit i ddychwelyd i’r cae, ac fe benderfynon nhw nad oedd modd cystadlu yn y sgrym wrth i’r bachwr Kristian Dacey ddod i’r cae yn safle’r prop.

Yn dilyn y dryswch, penderfynodd Georgia fynd am gic gosb yn hytrach na sgrym – sy’n anghyfreithlon – ond fe ildion nhw gic gosb yn y pen draw, oedd yn golygu bod modd cicio’r bêl dros y ffin gwsg i ddod â’r gêm i ben.

 

‘Dryswch’

Wrth amddiffyn ei benderfyniadau, dywedodd Warren Gatland fod Cymru “wedi drysu cymaint ag unrhyw un arall”.

Dywedodd fod y penderfyniad i dynnu Leon Brown oddi ar y cae yn un “tactegol” ond ei fod e’n dioddef o boen cramp yn ei goesau, a bod Nicky Smith yn dioddef o’r un broblem.

 

“Galla i addo nad oedd unrhyw beth o’n safbwynt ni o ran ceisio manteisio ar y rheolau neu unrhyw beth fel ’na. Pe bai Leon wedi bod yn ffit, fe fyddai’n sicr wedi dychwelyd i’r cae.”

Mae’r corff World Rugby yn cynnal ymchwiliad, ac wedi gwrthod gwneud sylw am y tro, ac mae prif hyfforddwr Georgia, Milton Haig nad yw’n bwriadu gwneud cwyn.