Mae prif hyfforddwr y Dreigiau, Bernard Jackman wedi wfftio adroddiadau sy’n cysylltu’r rhanbarth â Ross Moriarty.

Roedd wythwr 23 oed Caerloyw, Cymru a’r Llewod gyda’i dad, Paul mewn gwesty yng Nghasnewydd cyn gêm gwpan y Dreigiau yn erbyn y Scarlets ar gae Rodney Parade.

Mae lle i gredu bod y Dreigiau ar fin ei arwyddo wrth i’w gytundeb ddod i ben ar ddiwedd y tymor.

 

Ond dywedodd Bernard Jackman: “Allan o barch i’r holl dimau sydd eisiau ceisio arwyddo Ross, fe fydd e eisiau cyfarfod â phawb. Mae e’n sicr yn mynd i wrando ar yr hyn sydd ganddyn nhw i’w ddweud.

“Yn anffodus, does dim newyddion. Efallai bod gan y Scarlets newyddion positif. Dydyn ni ddim wedi cael newyddion positif eto. Pe baen ni’n ei arwyddo fe, bydden ni’n canu amdano fe, fydden ni ddim yn ceisio’i gadw’n dawel.

“Galla i ddweud â sicrwydd nad yw e wedi arwyddo yma.”

Anaf

Mae Ross Moriarty allan ag anaf i’w gefn ar hyn o bryd – anaf oedd wedi cwtogi ei daith i Seland Newydd gyda’r Llewod.

Ond wrth i reolau newydd Warren Gatland ddod i rym, mae’r chwaraewyr sy’n chwarae y tu allan i Gymru yn awyddus i ddychwelyd.

O hyn ymlaen, fe fydd rhaid i unrhyw chwaraewr sy’n chwarae y tu allan i Gymru fod wedi ennill 60 cap er mwyn cael parhau i gynrychioli eu gwlad.

 

Mae’r rheolau wedi cael eu beirniadu, ond yn ôl Bernard Jackman, mae’n beth positif i’r gêm ac mae Undeb Rygbi Cymru’n “haeddu clod mawr”.