Gleision 16–26 Gweilch
Y Gweilch a oedd yn fuddugol wrth iddynt ymweld â Pharc yr Arfau i herio’r Gleision yn y Cwpan Eingl Gymreig nos Wener.
Daeth y pwyntiau i gyd yn yr ail hanner wedi deugain munud cyntaf di sgôr yn y brifddinas.
Bu rhaid aros tan bum munud wedi’r egwyl am y pwyntiau cyntaf pan groesodd Reuben Morgan-Williams am gais i’r Gweilch.
Cafwyd cyfres o giciau cosb wedi hynny, tair i Steve Shingler a’r Gleision, a dwy gan Sam Davies i’r Gweilch.
Roedd buddugoliaeth yr ymwelwyr yn ddiogel ddeg munud o’r diwedd diolch i gais Rhys Williams a gwnaeth Davies yn siŵr o bethau gyda throsiad a dwy gic gosb hwyr gan olygu mai cais cysur yn unig a oedd sgôr hwyr Harri Millard i’r Gleision.
.
Gleision
Ceisiau: Harri Millard 78’
Trosiadau: Steve Shingler 79’
Ciciau Cosb: Steve Shingler 49’, 61’, 62’
.
Gweilch
Ceisiau: Reuben Morgan-Williams 45’, Rhys Williams 70’
Trosiadau: Luke Price 46’ Sam Davies 71’
Ciciau Cosb: Sam Davies 54’, 63’, 77’, 80’
Cerdyn Melyn: Rob McCusker 61’