Dan Lydiate fydd yn arwain Cymru am y trydydd tro wrth i’r tîm rygbi wynebu ei her nesaf yn erbyn Georgia yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn.

Dyma fydd un o’r 14 o newidiadau i’r garfan gollodd yn erbyn Awstralia o 29-21 y penwythnos diwethaf.

Liam Williams yw’r unig un i gadw’i le yn y tim gyda’r chwaraewr Saracens yn symud i fod yn gefnwr tra bydd yr asgellwyr Alex Cuthbert a Hallam Amos cael lle yn y tîm.

Yn y canol, bydd Owen Watkin yn dechrau ei gem gyntaf dros Gymru a Scott Williams yn dod yn lle Jonathan Davies yn dilyn ei anaf y penwythnos diwethaf. Rhys Webb yw’r mewnwr gyda Rhys Priestland yn faswr.

Bydd Leon Brown, Nicky Smith a Kristian Dacey yn flaenwyr, Cory Hill ac Adam Beard yn yr ail reng gyda Dan Lydiate a Sam Cross yn y cefn a Seb Davies yn wythwr.

Cyfle

“Mae’n gyfle cyffrous i rai o’r chwaraewyr ifancach i chwarae ar y cae a dangos i ni’r hyn maen nhw’n gallu gwneud,” meddai’r Prif Hyfforddwr, Warren Gatland.

“Mae gennym ni dipyn o brofiad yn y tîm hefyd, gyda chwaraewyr sydd wedi ennill nifer sylweddol o gapiau a hefyd chwaraewyr sydd wedi bod o amgylch yr awyrgylch yma am gyfnod hir hefyd.

“Mae Georgia yn dod i Gaerdydd ar ôl buddugoliaeth dda y penwythnos diwethaf a byddan nhw am ddangos yr hyn maen nhw’n gallu gwneud ar y llwyfan hwn ac mae’n rhaid i ni fod yn barod am hynny.”

Y tîm 

15. Liam Williams (Saracens); 14. Alex Cuthbert (Gleision Caerdydd); 13. Scott Williams (Scarlets); 12. Owen Watkin (Gweilch); 11. Hallam Amos (Dreigiau); 10. Rhys Priestland (Caerfaddon);9. Rhys Webb (Gweilch); 1. Nicky Smith (Gweilch); 2. Kristian Dacey (Gleision Caerdydd); 3. Leon Brown (Dreigiau); 4. Adam Beard (Gweilch); 5. Cory Hill (Dreigiau); 6. Dan Lydiate (Gweilch); 7. Sam Cross (Gweilch); 8. Seb Davies (Gleision)

Ar y fainc

16. Elliot Dee (Dreigiau); 17. Wyn Jones (Scarlets); 18. Tomas Francis (Exeter Chiefs); 19. Josh Navidi (Gleision Caerdydd); 20. Taulupe Faletau (Caerfaddon); 21. Aled Davies (Scarlets); 22. Dan Biggar (Gweilch); 23. Owen Williams (Caerloyw)