Mae disgwyl i’r canolwr Jonathan Davies fethu gweddill gemau tîm rygbi Cymru yng Nghyfres yr Hydref, oherwydd anaf i’w droed.

Cafodd y chwaraewr ei anafu mewn gêm yn erbyn Awstralia dros y penwythnos, a bellach mae’n wynebu chwe mis oddi ar y cae.

“Bydd Jonathan Davies yn cael llawdriniaeth i’w droed,” meddai Undeb Rygbi Cymru (WRU) mewn datganiad. “Rydym yn rhagweld bydd y cyfnod gwellhad yn para am chwe mis.”

Mae ei absenoldeb yn debygol o beri trafferth i Gymru, ac mae disgwyl i’r Prif Hyfforddwr, Warren Gatland, newid y tîm cryn dipyn yn sgil yr ergyd hon.

Cyflenwi dros dro

Wrth annerch gohebwyr ddydd Llun – a chyn cyhoeddi pa mor ddifrifol oedd yr anaf – dywedodd Hyfforddwr Cynorthwyol Cymru, Neil Jenkins: “Dydy pethau ddim yn edrych yn dda.”

“Mae’n debygol o gael trafferth [ymdopi] am weddill yr Hydref. Croesi bysedd – gobeithio nad yw’n rhy ddifrifol.”

Bellach, mae URC wedi cyhoeddi y bydd Jamie Roberts a Scott Andrews yn ymuno â’r garfan i gyflenwi dros dro.