Mae Undeb Rygbi Cymru wedi dweud bod y mesurau diogelwch oedd wedi achosi i filoedd o bobol gyrraedd eu seddi’n hwyr ar gyfer gêm rygbi Cymru yn erbyn Awstralia neithiwr “yma i aros”.

Roedd cefnogwyr wedi cael rhybudd i gyrraedd Stadiwm Principality dair awr cyn y gic gyntaf am 5.15pm, ond roedd bylchau mawr o amgylch y stadiwm wrth i’r gêm ddechrau.

Cafodd maint y dorf ei grybwyll ar yr awyr gan y cyflwynydd John Inverdale, ac roedd nifer fawr o gefnogwyr wedi cwyno ar wefannau cymdeithasol ar ôl methu â gweld dechrau’r gêm.

Awstralia oedd yn fuddugol yn y pen draw o 29-21.

‘Pob ymdrech’

Dywedodd Undeb Rygbi Cymru mewn datganiad eu bod nhw wedi gwneud “pob ymdrech” i sicrhau bod cefnogwyr yn ymwybodol o’r mesurau diogelwch.

Cawson nhw eu cyflwyno yn dilyn sawl ymosodiad brawychol ledled Ewrop dros y blynyddoedd diwethaf.

“Mae mesurau diogelwch ychwanegol yn sicrhau bod pawb sy’n mynd i mewn i Stadiwm Principality yn cael eu gwirio wrth gyrraedd y giatiau,” meddai’r datganiad.

“Ar gyfer y gyfres Under Armour [gemau’r hydref], rydym wedi dyblu oriau agor cyn y gêm i dair awr er mwyn rhoi’r cyfle i gefnogwyr osgoi’r ciw ac rydym wedi gwneud pob ymdrech i ddweud wrth gefnogwr i gynllunio i gyrraedd yn gynnar a gadael bagiau mawr ac ymbarelau gartref er mwyn dal y gic gyntaf.

“Rydym wedi derbyn cryn gefnogaeth gan ein holl bartneriaid, gan gynnwys y cyfryngau, Heddlu’r De a Chyngor Caerdydd wrth ledu’r neges hon cyn y digwyddiad.

“Mae diogelwch a mwynhad ein hymwelwyr o’r pwys mwyaf.”

‘Yma i aros’

Ychwanegodd yr Undeb fod y mesurau newydd “yma i aros”.

 

“Byddwn yn parhau i annog cefnogwyr i neilltuo mwy o amser i gyrraedd y stadiwm yn y dyfodol, gan fod y gwiriadau hyn yn hanfodol i ddiogelwch pawb sy’n dod.”