Mae disgwyl i dîm rygbi Cymru ymosod o ganol y cae wrth iddyn nhw herio Awstralia yng Nghaerdydd yng ngêm gynta’r hydref ddydd Sadwrn nesaf.

Mae’n debygol mai Dan Biggar fydd yn dechrau yn safle’r maswr, wrth i Owen Williams ddechrau wrth ei ochr yn safle’r canolwr rhif 12.

Mae’r dacteg o ymosod o’r safleoedd hynny wedi bod yn llwyddiannus i Loegr a’r Llewod dros y flwyddyn ddiwethaf, ond fe fydd yn estron i Gymru.

Ond yn ôl canolwr Cymru, Jonathan Davies, mae’r gêm yn newid cyfeiriad, ac fe wnaeth e “fwynhau chwarae gyda dau gadfridog yng nghanol y cae”, meddai.

 

“Mae’n agor y cae led y pen. Mae timau’n mynd i’r cyfeiriad hwnnw. Edrychwch ar Awstralia, gyda [Kurtley] Beale yn chwarae yn safle’r 12.

“Mae’r gêm wedi newid. Cael chwaraewr ymosodol ychwanegol yw’r cyfeiriad y mae’r gêm yn mynd iddo.”

Gemau’r hydref

Ar ôl y gêm yn erbyn Awstralia, fe fydd Cymru’n herio Georgia, Seland Newydd a De Affrica.

Ond fe fydd eu ffocws yn llwyr ar y gêm gyntaf am y tro, wrth iddyn nhw geisio curo Awstralia am y tro cyntaf ers 2008. Maen nhw wedi colli 12 o gemau o’r bron yn eu herbyn, gan gynnwys saith yng Nghaerdydd.

 

Ac mae’n debygol mai’r capten Alun Wyn Jones fydd yr unig un o’r chwaraewyr o’r gêm honno yn 2008 fydd yn dechrau ddydd Sadwrn nesaf.