Gleision 37–8 Zebre

Cafodd y Gleision fuddugoliaeth bwynt bonws wrth iddynt groesawu Zebre i Barc yr Arfau yn y Guinness Pro14 nos Sadwrn.

Croesodd y tîm cartref am ddau gais yn yr hanner cyntaf cyn ychwanegu tri arall wedi’r egwyl.

Daeth cais Lloyd Williams yn erbyn llif y chwarae i’r Gleision wedi chwe munud ond roedd yn gais da, y mewnwr yn sgorio gyda rhediad cyflym o’i hanner ei hun i lawr yr asgell chwith.

Caeodd Carlo Canna’r bwlch gyda chic gosb i Zebre ond y maswr a oedd ar fai wrth i’r Gleision groesi am eu hail gais hanner ffordd trwy’r hanner, yn methu a thaclo Willis Halaholo yng nghanol cae cyn i’r canolwr groesi yn y gornel dde.

Llwyddodd Steve Shingler gyda’r trosiad cyn ychwanegu dwy gic gosb cyn yr egwyl, 18-3 y sgôr wrth droi.

Daeth trydydd cais y Gleision i Matthew Rees wedi deg munud o’r ail hanner yn dilyn sgarmes symudol effeithiol.

Matthew arall a sicrhaodd y pwynt bonws i’r Cymry toc wedi’r awr, Matthew Morgan yn sgorio wedi cydchwarae da gyda Blaine Scully.

Manteisiondd Tom James ar gic amddiffynnol wael i groesi am bumed cais i’r tîm cartref cyn i’r eilydd fewnwr, Guglielmo Palazzani, sgorio cais cysur hwyr i’r Eidalwyr, 37-8 y sgôr terfynol.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi’r Gleision o’r gwaelod i’r pedwerydd safle yn nhabl Cyngres A y Pro14.

.

Gleision

Ceisiau: Lloyd Williams 6’, Willis Halaholo 19’, Matthew Rees 51’

Trosiadau: Steve Shingler 21’, 52’, 64’ 69’

Ciciau Cosb: Steve Shingler 25’, 30’

.

Zebre

Ceisiau: Guglielmo Palazzani 75’

Ciciau Cosb: Carlo Canna 10’