Caeredin 37–10 Gweilch

Parhau y mae tymor siomedig y Gweilch yn y Guinness Pro14 wedi iddynt golli oddi cartref yn erbyn Caeredin ym Myreside nos Sadwrn.

Croesodd y tîm cartref am bedwar cais mewn buddugoliaeth bwynt bonws gyforddus.

Dechreuodd y Gweilch yn dda ac roeddynt yn llawn haeddu mynd ar y blaen pan hyrddiodd Dimitri Arhip dros y gwyngalch wedi deuddeg munud yn dilyn cyfnod hir o bwyso.

Ychwanegodd Sam Davies y trosiad cyn iddo yntau a Jason Tovey gyfnewid cic gosb yr un, 3-10 y sgôr gyda chwarter awr o’r hanner cyntaf yn weddill.

Dim ond un tîm a oedd ynddi wedi hynny serch hynny wrth i’r Albanwyr ddechrau rheoli gyda Blair Kinghorn yn llywio’r cwbl o safle’r cefnwr.

Kinghorn a groesodd am gais cyntaf ei dîm yn dilyn dadlwythiad da Cornell du Preez ac roedd Caeredin chwe phwynt ar y blaen  wrth droi diolch i drosiad a dwy gic gosb gan Tovey.

Bylchiad gan Kinghorn a arweiniodd at gais o dan y pyst i’r mewnwr, Nathan Fowles, yn gynnar yn yr ail hanner hefyd ac roedd Caerfyrddin yn edrych yn gyfforddus.

Treuliodd y Gweilch gyfnodau hir o’r ail hanner yn amddiffyn ac roedd un ffugiad syml gan Tovey yn ddigon i’w gorchfygu wrth i’r Cymro ymestyn mantais yr Albanwyr.

Gyda’r fuddugoliaeth yn ddiogel, bu rhaid i’r tîm cartref aros tan symudiad olaf y gêm am eu pwynt bowns pan hyrddiodd Magnus Bradbury drosodd o dan y pyst, 37-10 y sgôr terfynol gyda Tovey yn sgorio 22 o’r pwyntiau.

.

Caeredin

Ceisiau: Blair Kinghorn 29’, Nathan Fowles 42’, Jason Tovey 55’, Magnus Bradbury 80’

Trosiadau: Jason Tovey 30’, 43’, 56’, 80’

Ciciau Cosb: Jason Tovey 17’, 32’, 37’

.

Gweilch

Cais: Dimitri Arhip 12’

Trosiad: Sam Davies 13’

Cic Gosb: Sam Davies 23’

Cerdyn Melyn: Brendon Leonard 32’