Gallai dechrau’r gêm yn erbyn Ffiji ar gyflymdra uchel ddydd Sul fod yn allweddol i obeithion tîm rygbi’r gynghrair Cymru o aros yng Nghwpan y Byd, yn ôl y prif hyfforddwr, John Kear.

Mae Cymru’n wynebu dynion o Ynysoedd y De am yr ail waith yn y gystadleuaeth, ar ôl cael crasfa o 50-6 yn erbyn Papua Guinea Newydd yn eu gêm agoriadol yr wythnos ddiwethaf.

Dadansoddi’r gwrthwynebwyr

Dechreuodd Ffiji eu hymgyrch gyda buddugoliaeth o 58-12 dros yr Unol Daleithiau ac maen nhw’n anelu am le yn y rownd gyn-derfynol am y trydydd tro yn olynol.

Dywedodd John Kear: “Ro’n i’n meddwl eu bod nhw’n dda iawn. Nid yn unig maen nhw’n fawr iawn ac yn gorfforol iawn ac yn ymosodol wrth gario’r bêl yn ei blaen, sef yn amlwg yr hyn wnaethon ni ei wynebu yn erbyn Papua, ond mae ganddyn nhw gryn dipyn o sgiliau hefyd.

“Fe fydd unrhyw dîm sydd â Jarryd Hayne, Akuila Uate a’i draed ar yr ochr chwith, Kevin Naiqama yn safle’r cefnwr a phrif sgoriwr ceisiau’r NRL Suliasi Vunivalu yn eich profi chi.

“Ry’n ni’n ceisio paratoi ar gyfer hynny. Rwy’n hyderus iawn, iawn y byddwn ni’n chwarae’n well o lawer nag y gwnaethon ni yn erbyn Papua Guinea Newydd.

“Y prif beth yw fod rhaid i ni ddechrau’n dda. Roedden ni o dan bwysau yn erbyn Papua Guinea Newydd o’r funud gyntaf ac ar ei hôl hi o 14-0 bron iawn cyn i ni gael ein gwynt atom.

“Os oeddech chi wedi gweld y gêm rhwng Ffiji a’r Unol Daleithiau, roedden nhw 20 pwynt ar y blaen o fewn 14 munud felly os ydyn ni am gael unrhyw obaith o gwbl, rhaid i ni fod yn egnïol a dechrau’n dda iawn.”

Anafiadau

Fe fydd Cymru heb Chester Butler, Sam Hopkins a Matty Seamark ar gyfer y gêm yn erbyn Ffiji.

Daw’r mewnwr Danny Ansell i mewn i’r tîm.