Munster 49–6 Dreigiau 

Cafodd y Dreigiau gweir go iawn wrth ymweld â Pharc Musgrave i wynebu Munster yn y Guinness Pro14 nos Wener.

Croesodd y Gwyddelod am saith cais mewn buddugoliaeth gyfforddus.

Aeth Munster ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf gyda chais i Rory Scannell a throsiad JJ Hanrahan cyn i Angus O’Brien gau’r bwlch gyda chic gosb i’r ymwelwyr.

Roedd un pwynt ar ddeg yn gwahanu’r ddau dîm ar yr egwyl serch hynny yn dilyn trosgais arall i’r tîm cartref, Simon Zebo yn cael y cais y tro hwn.

Ciciodd O’Brien dri phwynt arall i’r Dreigiau yn gynnar yn yr ail hanner ond roedd y gêm fwy neu lai o’u gafael wedi i Jack O’Donoghue sgorio trydydd cais Munster.

Roedd y pwynt bonws yn ddiogel i’r Gwyddelod wedi cais Darren Sweetnam ac fe agorodd y llifddorau wedi hynny.

Croesodd y tîm cartref am dri chais arall yn y chwarter olaf, dau i Sam Arnold ac un i Kevin O’Byrne.

Mae’r canlyniad yn gadael y Dreigiau yn chweched yng Nghyngres B y Pro14.

.

Munster

Ceisiau: Rory Scannell 20’, Simon Zebo 28’, Jack O’Donoghue 47’, Darren Sweetnam 57’, Sam Arnold 63’, 75’, Kevin O’Byrne 69’

Trosiadau: JJ Hanrahan 21’, 30’, 48’, 58’, 64’, 70’, 77’

.

Dreigiau

Ciciau Cosb: Angus O’Brien 24’, 42’