Richard Parks ar ben Mount Elbrus yn dathlu ei gamp (llun o wefan 737challenge)
Mae’r cyn chwaraewr rygbi Cymru, Richard Parks, wedi llwyddo yn ei ymgais i gyrraedd pegwn y de a phegwn y gogledd, yn ogystal a saith copa uchaf pob cyfandir, i gyd mewn saith mis.

 Efe a’i griw yw’r cyntaf erioed i gyflawni’r gamp hon o fewn yr un flwyddyn galendr. Maen nhw’n codi arian ar gyfer yr elusen gofal cancr – Marie Curie – ac yn anelu am oddeutu £1 miliwn.

Cwblhaodd Parks, sy’n 33, gymal olaf y daith Ddydd Mawrth (Gorffennaf 12fed) gan gyrraedd brig mynydd uchaf Ewrop, Mynydd Elbrus yn Rwsia.

Mae’r her wedi cymryd 6 mis, 11 diwrnod, 7 awr a 53 munud i’w gwblhau.

Yn yr amser hwnnw, fe fuon nhw ym mhegynau’r De a’r Gogledd, ac ar ben Mynydd Vinson (4,897m), Aconcagia (6,962m), Kilimanjaro (5895m), Carstensz Pyramid (4,884m), Everest (8,850m), Denali (6,194m) ac Elbrus (5,642m).

Yn y ddwy flynedd ddiwethaf, dywed Parks ei fod “wedi gwario pob ceiniog a phob awr o’r dydd ar y prosiect unigryw yma. Dwi wedi bod o ddifrif amdano oherwydd dwi’n credu yn yr her, ac yn yr achos da.”

“Roeddwn i’n ddigalon wedi i fy ngyrfa rygbi ddod i ben ar ôl yr anaf ysgwydd, ond mae hyn wedi rhoi rhywbeth positif i mi ffocysu arno.”

Cyn ei ymddeoliad o’r gêm broffesiynol ym mis Mai, 2009, bu Richard Parks yn cynrychioli clybiau rygbi Casnewydd, Pontypridd, Celtic Warriors, Leeds, Perpignan a Dreigiau Casnewydd-Gwent.