Rob Howley
Mae hyfforddwr cefnwyr Cymru, Rob Howley, wedi dweud mai agwedd y tîm fydd y peth pwysicaf pan fydd Cymru’n wynebu’r Barbariaid dydd Sadwrn.
Mae’r Barbariaid eisoes wedi dangos eu doniau gyda buddugoliaeth yn erbyn Lloegr y penwythnos diwethaf.
“Mae’n mynd i fod yn gêm bwysig ac ein hagwedd ni fydd yr elfen bwysicaf brynhawn ddydd Sadwrn,” meddai Rob Howley.
“Dyw’r Barbariaid ddim yn mynd i fod eisiau colli’r gêm. Rhaid i ni fod yn benderfynol o wneud ein gorau.
“Doedden ni ddim yn synnu gyda’u perfformiad yn erbyn Lloegr, a’r hiraf y mae timau fel yna gyda’i gilydd y mwyaf y byddwm nhw’n gwella. Mae’r Barbariaid yn dîm cryf.”
Mae disgwyl i Gavin Henson dychwelyd i’r llwyfan rhyngwladol ar y penwythnos wrth i Warren Gatland ddechrau ar ei baratoadau ar gyfer Cwpan y Byd yn yr hydref.
Mae Rob Howley yn gobeithio y bydd Henson yn cymryd ei gyfle, hyd yn oed os yw’n dod oddi ar y fainc.
“Rwy’n credu ei fod yn hawdd beirniadu’r ffaith bod Gavin heb chwarae yn gyson,” meddai.
“Ond mae wedi profi ei hun o’r blaen, yn enwedig yn ystod Campau Llawn 2005 a 2008.
“Mae gan Gavin y gallu naturiol i greu bylchau, nid yn unig i’w hun, ond i’r chwaraewyr eraill hefyd.
“Ond mae’r cyfan yn nwylo Gavin nawr.”