Gavin Henson
Mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wedi dweud y bydd rhaid i Gavin Henson “adael i’r rygbi siarad drosto” pan fydd yn chwarae dros Gymru ddydd Sadwrn.

Mae Henson yn ei ôl ar ôl dwy flynedd ar yr ystlys, ond mae disgwyl y bydd yn chwarae o flaen Stadiwm y Mileniwm hanner gwag.

Bydd angen perfformiad ar y canolwr 29 oed, sydd heb glwb ar y funud ar ôl gadael Toulon, a hefyd yn gobeithio ennill ei le yn nhîm Cymru ar gyfer Cwpan y Byd.

Y tro diwethaf iddo chwarae dros Gymru oedd gêm olaf Chwe Gwlad 2009 yn erbyn Iwerddon. Y gêm yn erbyn y Barbariaid fydd ei 32ain cap.

Dywedodd Warren Gatland ei fod yn disgwyl i Gavin Henson wneud y mwyaf o’i gyfle.

“Mae’n gyfle i Gavin adael i’r rygbi siarad drosto ar y maes chwarae,” meddai.

“Mae gennym ni Andrew Bishop, Jamie Roberts, Jonathan Davies a nawr Scott Williams, ond mae angen dyfnder arnom ni.

“Y gobaith yw y bydd Gavin yn gwneud yn dda ac yn rhoi pwysau ar y chwaraewyr sy’n teimlo eu bod nhw’n sicr o’u lle.

“Mae’n dweud ei fod wrth ei fodd, a’i fod wir yn mwynhau chwarae rygbi ar yn o bryd, ac mae hynny’n beth da.”

100fed cap i Stephen

Fe fydd y maswr Stephen Jones yn ennill ei 100fed cap yn ystod y gêm, yr ail chwaraewr ar ôl Gareth Thomas i gyflawni’r gamp.

“Mae Stephen wedi cyrraedd carreg filltir arbennig ac mae o’n haeddu pob clod,” meddai Warren Gatland.

“Mae’n dangos ei awch ei fod yn parhau i gredu fod ganddo lawer iawn i’w gynnig.

“Dyw Stephen ddim yn hercian tuag at ei 100fed cap gan obeithio rhoi’r ffidil yn y to, mae’n edrych ymlaen at y dyfodol a Chwpan y Byd.”

Y tîm

Stoddart (Scarlets); North (Scarlets), Davies (Scarlets), Henson (dim tîm), Brew (Dreigiau); S Jones (Scarlets), Phillips (Gweilch); Bevington (Gweilch), Bennett (Gweilch), James (Gweilch), R Jones (Gweilch), Charteris (Dreigiau), Lydiate (Dreigiau), Warburton (captain, Gleision), Faletau (Dreigiau).

Replacements: Burns (Dreigiau), Andrews (Gleision), AW Jones (Gweilch), Turnbull (Scarlets), Knoyle (Scarlets), Priestland (Scarlets), Williams (Scarlets).