Joe Bearman - o wefan y Dreigiau
Mae Dreigiau Gwent wedi cyhoeddi enwau llu o chwaraewyr sydd i adael y clwb ar ddiwedd y tymor.

Ymysg yr enwau mwyaf amlwg ar y rhestr mae’r rheng ôl Joe Bearman a’r ddau ganolwr rhyngwladol Matthew J Watkins a Nathan Brew.

Fe fydd y canolwr o’r canolbarth Rhodri Gomer Davies hefyd ymysg yr 16 o chwaraewyr sy’n gadael y Dreigiau.

Roedd Bearman, sydd wedi bod yn un o chwaraewyr amlycaf y rhanbarth dros y blynyddoedd, eisoes wedi cyhoeddi y byddai’n ymuno â’r Gwelch ar ddiwedd y tymor.

Er bod gan Watkins ddeunaw o gapiau dros Gymru, ychydig iawn mae’r canolwr wedi chwarae i’r rhanbarth eleni, tra bod Brew hefyd wedi ei chael hi’n anodd i ennill ei le.

Rhan o’r gêm

Wedi ymadawiad sydyn Paul Turner ym mis Chwefror, mae’r newyddion yn arwydd clir bod yr hyfforddwr newydd Darren Edwards wedi penderfynu ailadeiladu’r garfan ar gyfer y tymor newydd.

“Mae’n ran o’r gêm bod nifer o chwaraewyr yn symud ar ddiwedd tymor” meddai Cyfarwyddwr Rygbi’r Dreigiau, Robert Beale.

“Mae’r chwaraewyr yma wedi ymdrechu’n galed iawn i’r Dreigiau ac rydym yn dymuno diolch yn fawr iawn iddynt am eu hymrwymiad yn ystod eu cyfnod gyda’r rhanbarth”

Cytundebau newydd i ddau ifanc

Mae’r rhanbarth wedi cadarnhau heddiw bod dau chwaraewr ifanc addawol wedi arwyddo cytundebau newydd â’r Dreigiau.

Mae’r mewnwr James Leadbeater, a chwaraeodd bump o weithiau i’r Dreigiau llynedd wedi ymestyn ei gytundeb am flwyddyn.

Steffan Jones oedd prif sgoriwr tîm Cross Keys llynedd gyda 300 o bwyntiau, ac fe ddechreuodd ei gêm gyntaf i’r Dreigiau yn erbyn y Gleision, gan sgorio cais agoriadol y gêm.

Mae’r maswr 20 oed wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd gyda’r rhanbarth.

Y rhestr lawn o chwaraewyr sy’n gadael y Dreigiau:

Ali McKenzie, Pat Palmer, Duane Goodfield (ymddeol oherwydd anaf) Arthur Ellis, Adam Brown, James Thomas, Craig Attwell, Rhydian Wilson, Tom Cooper, Matthew Watkins, Rhodri Gomer Davies, Nathan Brew, James Davies, Matt Evans, Joe Bearman a Nicky Griffiths