Mae hyfforddwr tîm saith bob ochr Cymru am i’w dîm orffen y gyfres ar nodyn uchel ar ôl perfformio’n dda yng nghymal Lloegr o’r gystadleuaeth.


Dwe Affrica'n dathlu (IRB-Martin Seras Lima)
Mae hyfforddwr tîm saith bob ochr Cymru am i’w dîm orffen y gyfres ar nodyn uchel ar ôl perfformio’n dda yng nghymal Lloegr o’r gystadleuaeth.

Fe gollodd tîm Paul John 21-19 yn erbyn De Affrica yn rownd gyn derfynol y yr elfen gwpan yn Nhwickenham, gyda’r Springboks yn mynd ymlaen i ennill y gystadleuaeth ddoe.

Mae Paul John am berfformiad tebyg eto yng nghymal olaf y gystadleuaeth yng Nghaeredin y penwythnos nesaf. Y nod fydd dod yn gynta’ neu’n ail yn y grŵp er mwyn mynd trwodd i rownd gwpan yr wyth olaf eto.

“R’yn ni am orffen y tymor ar nodyn uchel. Mae angen i ni gyrraedd yr un safon â’r penwythnos yma yng Nghaeredin eto,” meddai Paul John.

“Y peth cyntaf y bydd angen i ni ei wneud fydd sicrhau ein bod yn mynd allan o’r grŵp”

Fe fydd Cymru’n wynebu Lloegr, Portiwgal a Sbaen yn rownd y grwpiau ym Murrayfield y penwythnos nesaf.